21 Chwefror 2022

 

Eluned Morgan AS
 Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Annwyl Eluned

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal – ymateb i adroddiad y Pwyllgor

Diolch unwaith eto am ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i'n hadroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal fore dydd Mawrth 15 Chwefror, cyn ystyriaeth y Senedd o gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ar yr un prynhawn.

Mae un mater o bwysigrwydd arbennig a godwyd yn eich ymateb ysgrifenedig sy’n gofyn am gael sylw brys. Yn eich ymateb i argymhelliad 4 yn ein hadroddiad ar Femoranda Rhif 2 a Rhif 3 (a ofynnodd ichi egluro pam nad oeddech yn ceisio cydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 153 o’r Bil), dywedoch:

“Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol bod cysyniad y Senedd yn cael ei geisio ar gyfer y Bil yn ei gyfanrwydd, ac nid fesul cymal.”

Nid dyma’r sefyllfa fel y’i nodir yn y tri memoranda yr ydych wedi’u gosod gerbron y Senedd mewn perthynas â’r Bil, ac ar y sail y cafodd cydsyniad y Senedd ei geisio – a’i roi – ar 15 Chwefror.

Nid yw mwyafrif helaeth y Bil –sy’n cynnwys dros 170 o gymalau a bron i 20 o Atodlenni – yn gwneud darpariaeth o fewn diben datganoledig (neu’n cynnwys darpariaeth sy’n addasu cymhwysedd y Senedd).

Sylwaf bod geiriad y cynnig y cytunwyd arno gan y Senedd yn cyfeirio at “ddarpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd”. Mae’r cynnig hefyd yn cyfeirio at y tri memoranda yr ydych wedi’u gosod ar gyfer y Bil hwn.

Mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod y Senedd yn gwbl ymwybodol o’r hyn y mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn gofyn iddi gydsynio iddo. O ystyried bod yr ohebiaeth a ddaeth i law ar gyfer fy Mhwyllgor yn groes i’r memoranda, ar yr achlysur hwn, bellach mae yna amwysedd digroeso sy’n peri pryder ynghylch yr hyn yr ydych wedi’i ofyn i’r Senedd, ac wedi’i argymell iddi. Mae hwn yn fater difrifol, ac mae angen eglurhad brys yn ei gylch.

Byddwn yn ddiolchgar, felly, o gael ymateb gennych erbyn dydd Llun 28 Chwefror, sy’n mynd i’r afael â’ch safbwynt ac yn ei egluro. O ystyried arwyddocâd posibl y mater, rwy’n anfon copi o’r llythyr at y Llywydd.

Dyma fanteisio hefyd ar y cyfle i’ch atgoffa am y cais a wnes yn ystod y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y cynnig cydsyniad ar gyfer y Bil, sef eich bod yn ysgrifennu atom i roi esboniad mwy trylwyr o’r “mân risg gyfansoddiadol” rydych yn ei grybwyll ym Memorandwm Rhif. 3. At hynny, byddem yn ddiolchgar o gael gwell dealltwriaeth ynghylch eich penderfyniad i beidio â mynd ar drywydd gwelliant i’r Bil fel na all Gweinidogion y DU ddefnyddio ei bwerau i wneud rheoliadau sy’n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried eich ymateb i'n hadroddiad yn llawn yn ein cyfarfod nesaf, ac efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch eto ar yr adeg honno os byddwn yn dymuno gwneud gwaith dilynol ar unrhyw faterion eraill.

Rwyf hefyd yn anfon copi o’r llythyr at y Prif Weinidog, ac at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Yn gywir,

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd